Rydym yn dathlu 10 mlynedd o SCG ac yn cydweithio a Canolfan Mileniwm Cymru ar gynnal nifer o ddigwyddiadau yn yr adeilad enwog ar Gwener Medi 10 a Sadwrn Medi 11 am ddathliad fydd yn cynnwys seminarau i’r diwydiant, cerddoriaeth fyw, a lleoliad rhwydweithio / arddangos.
Bydd y dathliadau yn parhau yn Galeri ar Hydref y 7fed a’r 8fed 2010.
Bydd y seminarau am ddim ac yn agored i bawb sy’n ymwneud neu’n gobeithio gweithio’n y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru. Caiff blaenoriaeth ei roi i Randdeiliaid SCG (y rhai sydd wedi cofrestru gyda ni fel menter cerddorol gweithredol yn y wlad).
Gwelwch ein gwefan os hoffech fwy o wybodaeth am ddod yn Randdeiliad.
Gobeithiem yr ymunwch gyda ni am sesiynau defnyddiol a rhwydweithio yn ystod amserlen digwyddiadau y dydd.
Naill noson bydd hyrwyddwyr Cymru’n dod a dewis cyfforus o berfformwyr i’r llwyfannau ac edrychwn ymlaen i’ch gweled yno!
Mae SCG yn ymchwilio a hel gwybodaeth am y sin fyw yng Nghymru gyda’r nôd o ddatblgyu strategaeth hir-dymor i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r sector fyw. Os ydych yn ymwneud a cherddoriaeth fyw yng Nghymru yna ymunwch a ni i ddarganfod mwy a chynnig eich canfyddiadau a’ch barn.
I gofrestru gyrrwch ebost at hello@welshmusicfoundation.com gyda’r teitl `Ymchwil Miwsig Byw`.
Gweithdy Miwsig Byw I drefnwyr gigs, hyrwyddwyr gwyliau, cyngherddau neu reolwyr lleoliadau’r dyfodol neu’r presennol: Awr o wybodaeth a syniadau am gynnal gigs, gwyliau a digwyddiadau byw.
I gofrestru gyrrwch ebost at hello@welshmusicfoundation.com gyda’r teitl `Gweithdy Miwsig Byw`.
Thursday 7th and Friday 8th October 2010 – Galeri Caernarfon
Welsh Music Foundation is 10 years old this year and as part of continued celebrations, will be hosting two days of free music industry seminars, live music and more in Galeri, Caernarfon on Thursday 7th and Friday 8th October 2010.
We hope you’ll join us for informative sessions and networking during the daytime, then, each evening, promoters and labels from Wales bring an exciting line-up of free live music, including performances from Sian James, Alun Tan Lan, Gwilym Morus, Yucatan and Colorama.
We look forward to seeing you there!

9yh Morgan Lloyd, Y Maes, Caernarfon
Colorama / Alun Tan Lan
Dewch i wrando ar ddau grwp hynod dalentog, y ddau ar fin rhyddhau albyms newydd.
10yh Y Castell, Y Maes, Caernarfon
Sian James / Gwilym Morus
Dewch am noson hwyr o wrando ar synnau bendigedig Sian a Gwilym
(Y ddau gig am ddim – a nid oes rhaid cofrestru i fynychu rhain)
Perfformiad gan Yucatan, dylai ymdrochi Galeri gyda’u wal arallfydol o swn. Am flas cyn yr achlysur ewch i http://www.myspace.com/yucatanambyth
Diodydd a Rhwydweithio Ymunwch gyda ni am ddiodydd meddal a llai meddal yn y bar wedi digwyddiadau’r dydd a chyn ein arlwy hynod wych yn y maes yng Nghaernarfon yn y nos. Ia, ni fydd yn talu.
Y diweddaraf ym myd y cyfryngau, gydag arbennigwyr o radio, teledu, y we, a’r cylchgronnau yn pwyso a mesur y byd cyfnewidiol ohoni. Pa gyfryngau sy’n bwysig i’ch cerddoriaeth bellach yng Nghymru a phellach?
I gofrestru gyrrwch ebost at hello@welshmusicfoundation.com gyda’r teitl `Cyfryngau yng Nghymru`.