Dysgu

Rhwydweithio a bwffe

Iau 7 Hydref 2010

6.15yp

Bar, Galeri, Caernarfon

Ymchwil SCG i gerddoriaeth fyw yng Nghymru

Iau 7 Hydref 2010

5.15yp – 6.15yp

Ystafell C3, Galeri, Caernarfon

Mae SCG yn ymchwilio a hel gwybodaeth am y sin fyw yng Nghymru gyda’r nôd o ddatblgyu strategaeth hir-dymor i sicrhau dyfodol llewyrchus i’r sector fyw. Os ydych yn ymwneud a cherddoriaeth fyw yng Nghymru yna ymunwch a ni i ddarganfod mwy a chynnig eich canfyddiadau a’ch barn.

I gofrestru gyrrwch ebost at hello@welshmusicfoundation.com gyda’r teitl `Ymchwil Miwsig Byw`.

Gweithdy Miwsig Byw

Iau 7 Hydref 2010

4yp – 5yp

Ystafell C3, Galeri, Caernarfon

Gweithdy Miwsig Byw I drefnwyr gigs, hyrwyddwyr gwyliau, cyngherddau neu reolwyr lleoliadau’r dyfodol neu’r presennol: Awr o wybodaeth a syniadau am gynnal gigs, gwyliau a digwyddiadau byw.

I gofrestru gyrrwch ebost at hello@welshmusicfoundation.com gyda’r teitl `Gweithdy Miwsig Byw`.

Diodydd a Rhwydweithio

Gwener 8 Hydref 2010

4:45yp

Galeri, Caernarfon

Diodydd a Rhwydweithio Ymunwch gyda ni am ddiodydd meddal a llai meddal yn y bar wedi digwyddiadau’r dydd a chyn ein arlwy hynod wych yn y maes yng Nghaernarfon yn y nos. Ia, ni fydd yn talu.

‘Fydd y chwyldro ddim ar y teledu, gyfaill’ – y cyfryngau yng Nghymru a’r byd

Gwener 8 Hydref 2010

15:15 – 16:45

Stiwdio 2, Galeri, Caernarfon

Y diweddaraf ym myd y cyfryngau, gydag arbennigwyr o radio, teledu, y we, a’r cylchgronnau yn pwyso a mesur y byd cyfnewidiol ohoni.  Pa gyfryngau sy’n bwysig i’ch cerddoriaeth bellach yng Nghymru a phellach?

I gofrestru gyrrwch ebost at hello@welshmusicfoundation.com gyda’r teitl `Cyfryngau yng Nghymru`.

Corff Casglu Cymreig – Adroddiad Cambrensis

Gwener 8 Hydref 2010

13:30 – 15:00

Stiwdio 2, Galeri, Caernarfon

Cyflwyniad a thrafodaeth ar Adroddiad Cambrensis, y cam diweddaraf tuag at sefydlu corff casglu Cymreig. Bydd cynrychiolydd o PRS, y corff casglu Prydeinig, yno i gynnig safbwyntiau fydd o bosib yn wahanol.

I gofrestru gyrrwch ebost at hello@welshmusicfoundation.com gyda’r teitl `Adroddiad Cambrensis`.

15:00 –  Egwyl a phaned

Cyfleon yng Nghymru a thramor

Gwener 8 Hydref 2010

12yp – 12:30yp

Stiwdio 2, Galeri, Caernarfon

Hoffech fynd a’ch cerddoriaeth dramor? Eisiau darganfod mwy am deithiau, gwyliau rhyngwladol ac arddangosfeydd?  Sesiwn wybodaeth lle gallwch ddarganfod mwy am y gwaith mae SCG yn ei wneud i ddarparu cyfleon i arddangos eich hun dramor.

Igofrestru gyrrwch ebost at hello@welshmusicfoundation.com gyda’r teitl `Cyfleon yng Nghymru a thramor`.

12.45 – Cinio

Gwneud Arian o Gerddoriaeth yn 2010

Dydd Gwener 10fed Medi 2010

11.00 – 17:45

**DAY-LONG CMU SESSION.  OTHER SHORTER SESSIONS RUN THROUGHOUT THE DAY**

Canolfan Mileniwm Cymru

Mae’r seminar undydd hwn yn archwiliad o’r ffyrdd y gall deiliaid hawliau achwmnïau cerddoriaeth godi arian buddsoddi a gwneud arian yn 2010. Bydd yncynnig adolygiad o’r refeniw sy’n bosibl o eiddo deallusol, perfformiad a’r berthynasâ chefnogwyr ar wahanol adegau yn ystod gyrfa artist, ac yn gwerthuso modelaubuddsoddi a refeniw newydd, gan gynnwys nawdd gan gefnogwyr a phartneriaethaubrand.

Caiff y seminar ei arwain gan Chris Cooke, Cyhoeddwr a Golygydd Busnes y CMUDaily, ac arbenigwr blaenllaw ar y busnes cerddoriaeth a’r tueddiadau cyfredol yn ydiwydiant.

Mae Chris yn siarad yn rheolaidd mewn cynadleddau ar fodelau busnesnewydd a thraddodiadol sy’n seiliedig ar gerddoriaeth, ac yn aml yn sylwebu arddatblygiadau yn y diwydiant i Sky News, CNN ac, yn enwedig, y BBC. Mae Chrishefyd yn hyfforddwr profiadol, ac yn arbenigo mewn cerddoriaeth, busnes a’rcyfryngau. Bydd y rheini sy’n bresennol yn cael pecyn yn rhad ac am ddim sy’ncrynhoi’r cynnwys a drafodir ar y diwrnod.

DIM OND HYN A HYN O LEOEDD sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn, a rhoddirblaenoriaeth i Randdeiliaid y Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig sy’n weithgar yn ydiwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

I ofyn am le, anfonwch e-bost i hello@welshmusicfoundation.com gan roi’r canlynolyn y llinell pwnc, ‘CMU : Gwneud Arian o Gerddoriaeth yn 2010’.Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim.

Parhad y Stiwdio

Dydd Gwener 10fed Medi 2010

12:00 – 14:00

Canolfan Mileniwm Cymru

Ystafell Sony

Mae’r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn galw ar bawb sy’n rhan o’r diwydiant recordio proffesiynol yng Nghymru i fod yn bresennol mewn sesiwn panel allweddol a fydd yn annog trafodaeth am amodau’r farchnad, y rhagolygon, y llwyddiannau a’r heriau sy’n wynebu stiwdios ledled y wlad.

Gall rheolwyr, peirianwyr, cynhyrchwyr a pherchnogion stiwdios o bob cwr o Gymru glywed awgrymiadau ymarferol (gan gynnwys marchnata), rhannu profiadau a phryderon, trafod effaith recordio ‘ystafell wely’ ac archwilio’r gwahaniaethau rhwng cyfleusterau ledled Cymru – a chyfleoedd posibl.

Bydd diodydd a chyfle i rwydweithio yn dilyn y sesiwn, a bydd rhywfaint o le i arddangos a chyfle i siarad ag aelodau bandiau, labeli a rheolwyr a fydd mewn sesiwn arall yn yr un lleoliad ar yr un pryd.

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim.

Mae’n agored i’r rheini sy’n ymwneud â’r diwydiant ar bob lefel.

Register for Survival of the Studio in Cardiff, United Kingdom  on Eventbrite

Panel members

Malcolm Atkin – Chairman, APRS (Chair)

Mae APRS yn hyrwyddo’r safonau uchaf o broffesiynoldeb ac ansawdd yn y diwydiant clyweledol. Mae ei aelodau yn cynnwys stiwdios recordio, cwmnïau ôl-gynhyrchu, mastro, dyblygu, ‘gwasgu’ a chopïo, a darparwyr addysg a hyfforddiant, yn ogystal â pheirianwyr clyweledol, gwneuthurwyr, cyflenwyr ac ymgynghorwyr. Prif nod APRS yw datblygu a chynnal rhagoriaeth ar bob lefel o fewn y diwydiant clyweledol.

Ed Richmond – BBC Radio One Introducing in Wales

Producer

Romesh Dodangoda – Record Producer

(Motorhead, Lostprophets, Funeral For a Friend, Bullet for My Valentine, Kids In Glass Houses, The Blackout)

Charlie Francis – Producer/ Engineer/Mixer/Musician

(REM, Noisettes, Victorian English Gentleman’s Club, Robyn Hitchcock, High Llamas)

Trisha Wegg – RAK Studios

RAK Recording Studios were created in 1976 by legendary record producer Mickie Most who converted a Victorian schoolhouse and church hall into a state-of-the-art recording studio complex with full residential facilities. Over the years RAK have played host to both musical legends and newcomers alike.

Recent clients include KT.Tunstall, La Roux and Chromeo, Shakira, Cee-Lo, The Feeling, Mumford & Sons to name but a few.